Llun: PA
Mae cyn-filwr hoyw wedi sicrhau y gall ei bartner gael yr un hawliau pensiwn ag y byddai partner heterorywiol yn eu cael.

Mae’r Goruchaf Lys wedi gwyrdroi dyfarniad blaenorol oedd wedi barnu yn erbyn John Walker, 66, pan ddywedodd barnwyr yn y Llys Apêl yn 2015 fod yr achos yn ymwneud â chyfnod cyn i bartneriaethau sifil gael eu cydnabod gan y gyfraith.

Mae’r pâr bellach wedi priodi.

Roedd e’n herio cyfraith a gafodd ei diddymu yn 2005 oedd yn dweud bod modd eithrio partneriaid mewn perthynas o’r un rhyw rhag derbyn arian o gronfa bensiwn.

Ond fe benderfynodd y Goruchaf Lys heddiw fod gan ei bartner yr hawl i etifeddu ei bensiwn pan fydd e’n marw, ar yr amod eu bod nhw’n dal yn briod bryd hynny, a bod y gyfraith yn 2005 yn “mynd yn groes i gyfreithiau’r Undeb Ewropeaidd”.

Dywedodd sefydliad Liberty cyn y dyfarniad y gallai’r achos “newid bywydau miloedd o gyplau o’r un rhyw mewn modd dramatig”.

Mae’n golygu y bydd modd i bartner John Walker dderbyn oddeutu £45,000 y flwyddyn ar ôl ei farwolaeth, yn hytrach na £1,000.

Dywedodd yn dilyn y dyfarniad ei fod e wrth ei fodd, a’i bod yn “fuddugoliaeth i degwch sylfaenol”.

Dywedodd Llywodraeth Prydain y bydden nhw’n ymateb maes o law.