Ruth Davidson, arweinydd Ceidwadwyr yr Alban - am ennill seddi, ond yn colli tir (llun oi' chyfri Twitter)
Yr arolwg barn diweddara’n dangos y Ceidwadwyr yn gwanhauFe fydd plaid yr SNP yn ennill 50 o’r 59 sedd yn yr Alban, os yw’r pôl piniwn diweddara’n gywir.

Er fod hynny chwech yn llai nag yn 2015, fe fyddai’n dal i gael ei ystyried yn fuddugoliaeth fawr i’r blaid genedlaethol.

Y Torïaid fyddai’n ennill seddi oddi arnyn nhw, yn ôl yr arolwg gan Ipsos Mori i gwmni teledu STV.

Er eu bod yn gyfartal gyda Llafur o ran canran, fe allen nhw ennill chwech sedd ychwanegol i gael cyfanswm o saith.

Y manylion

Dyma’r sgoriau yn ôl y pôl:

SNP                       43%

Ceidwadwyr        25%

Llafur                    25%

Dem Rhydd           5%

Os yw’r pôl yn agos ati, dim ond un sedd yr un fyddai gan Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Ceidwadwyr yn colli tir

Mae’r arolwg hefyd yn cadarnhau tuedd arolygon barn Prydeinig diweddar sy’n dangos canran Llafur ar gynnydd a’r Ceidwadwyr yn gostwng yn ystod y pythefnos diwetha’.

Yn ôl yr arolwg Prydeinig diweddara’ gan YouGOv, fe allai’r Ceidwadwyr a Theresa May golli eu mwyafrif Prydeinig yn llwyr.