Disgwyl effaith ar ardaloedd lle mae llifogydd (Patrick Mackie CCA2.0)
Bydd cynnydd yn y dreth ar bolisïau yn ôl y diwydiant. yswiriant yn dod i rym heddiw gan effeithio ar filiynau o bobol,

Yn ôl Cymdeithas y Broceriaid Yswiriant Prydeinig (BIBA) pobol sydd eisoes yn talu mwy na’r gweddill fydd yn cael eu heffeithio fwya’, gan gynnwys busnesau bach. gyrwyr ifanc a phobol sy’n byw mewn ardaloedd lle mae peryg o lifogydd.

Pryder BIBA yw bod y cynnydd o 10% i 12% yn golygu y bydd pobol yn dewis peidio talu am bolisïau yswiriant yn hytrach na thalu costau uwch.

Mae’n bosib y bydd 20.1% o yrwyr a 20.4% o berchnogion cartrefi yn wynebu costau uwch a gall busnesau bach hefyd gael eu heffeithio.

“Treth ar yswirwyr”

Mae Trysorlys y Deyrnas Unedig wedi amddiffyn y cynnydd yn y dreth gan nodi mai yswirwyr sydd yn gyfrifol am unrhyw gynnydd mewn costau yswiriant.

“Treth ar yswirwyr yw’r Dreth Yswiriant Premiwm, nid treth ar gwsmeriaid,” meddai llefarydd ar ran y Trysorlys. “Cwmnïau yswiriant sydd yn penderfynu os ydyn nhw am drosglwyddo effaith y cynnydd i’w cwsmeriaid neu beidio.

“Mae’r Dreth Yswiriant Premiwm yn llawer uwch mewn sawl gwlad Ewropeaidd, gan gynnwys Ffrainc a’r Almaen, nac y mae hi yn y Deyrnas Unedig.”