Jeremy Corbyn (Llun: PA)
Mae perygl y gallai’r Ceidwadwyr achosi rhyfel rhwng y cenedlaethau, yn ôl Jeremy Corbyn.

Mewn rali yn Birmingham, galwodd arweinydd y Blaid Lafur ar Brif Weinidog Prydain, Theresa May i droi ei chefn ar “becyn gwrth-bensiynwyr” sy’n achosi “diflastod triphlyg” i’r henoed drwy dorri eu pensiynau, gosod amodau ar danwydd y gaeaf a’u gorfodi i dalu am ofal yn y cartref.

Ond mae e’n mynnu na ddylid cyflwyno pecyn gwell i bensiynwyr ar draul y to iau, ac y dylid helpu pobol ifanc drwy eu hariannu gan osod trethi uwch ar y cyflogau uchaf a busnesau mawrion.

‘Sicrwydd i bawb’

Dywedodd Jeremy Corbyn fod digon o adnoddau ar gael i gynnig “bywyd sicr i bawb”, ac na ddylid “gosod dyfodol ein pobol ifanc yn erbyn sicrwydd i’r henoed”.

Fe amlinellodd e gynlluniau ei blaid i ddiddymu ffioedd dysgu ac i adeiladu cartrefi i bobol ifanc, gan ddweud mai “undod rhwng cenedlaethau i greu cymdeithas well i bawb” yw ei nod.

Dywedodd y byddai’r blaid yn rhoi trethi ychwanegol ar y rheiny sydd yn y 5% uchaf o ran cyflogau.

Gobeithion Llafur

Dywedodd Jeremy Corbyn fod ymgyrch ei blaid yn magu coesau, tra bod ymgyrch y Ceidwadwyr yn mynd am yn ôl.

“Mae’r holl drafodaeth a’r holl ddadl yn dadfeilio o safbwynt y Torïaid, oherwydd mae pobol yn dweud, “Arhoswch funud, pam fod cynifer o bobol ifanc o dan gymaint o straen? Pam fod cynifer o bobol mewn oed yn cael eu bygwth gan y Llywodraeth hon? A allwn ni fel cymdeithas, fel gwlad, fel pobol wneud pethau’n wahanol ac yn well?”

Fe alwodd ar bobol ifanc i gofrestru i bleidleisio cyn y dyddiad cau am ganol nos, nos Lun.