Tony Blair Llun: PA
Fe fydd Prydain eisiau ail-ymuno a’r Undeb Ewropeaidd rywbryd yn y dyfodol, meddai Tony Blair.

Dywedodd y cyn-brif weinidog bod y bleidlais o blaid Brexit y llynedd wedi ei ysgogi i ddod yn gysylltiedig â gwleidyddiaeth unwaith eto, ond ei fod yn gwrthwynebu’r syniad o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Tra ei fod wedi ei gwneud yn glir nad yw’n bwriadu dychwelyd i’r Senedd, dywedodd wrth y Daily Mirror ei fod eisiau helpu i ffurfio’r drafodaeth am bolisi.

Roedd yn cael ei holi ar gyfer cyfweliad i nodi 20 mlynedd ers llwyddiant ysgubol Llafur yn yr etholiad cyffredinol yn 1997.

“Rydw i am gymryd rhan yn y broses o geisio ffurfio’r drafodaeth am bolisi ac mae hynny’n golygu mynd allan ac ail-gysylltu.”

Ychwanegodd ei fod yn ymwybodol y byddai’n cael ei feirniadu “am sticio fy mhen allan drwy’r  drws” ond ei fod yn teimlo’n “angerddol am y peth.”

“Dw i ddim eisiau bod mewn sefyllfa lle’r ydym yn mynd drwy’r cyfnod yma mewn hanes a fy mod i heb ddweud unrhyw beth oherwydd byddai hynny’n golygu nad ydw i’n malio am y wlad yma. Dw i yn.”

Fe rybuddiodd Tony Blair y byddai Prydain ar ei cholled y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd ac fe awgrymodd y gallai’r wlad geisio dychwelyd yn y dyfodol.

“Dw i’n proffwydo y gallai gymryd cenhedlaeth arall ond ar ryw bwynt fe fyddwn ni eisiau bod yn ôl yn rhan o’r UE.”