Theresa May yn arwyddo llythyr Erthygl 50 i ddechrau'r broses ffurifol o adael yr UE nol ym mis Mawrth (Llun: Christopher Furlong/PA)
Mae Jeremy Corbyn wedi beirniadu strategaeth Brexit Theresa May gan rybuddio na fyddai’n sicrhau cytundeb da i Brydain.

Dywedodd yr arweinydd Llafur nad oedd bygwth gadael y trafodaethau heb gytundeb yn ffordd gall o ddelio gyda gwledydd sy’n gyfrifol am hanner masnach dramor y Deyrnas Unedig.

Daeth ei sylwadau yn dilyn adroddiadau bod y cyfarfod rhwng llywydd y Comisiwn Ewropeaidd Jean Claude Juncker a Theresa May yn Downing Street wythnos ddiwethaf wedi mynd yn “wael iawn”.

Wrth ymgyrchu yn Battersea, de Llundain dywedodd Jeremy Corbyn bod angen dangos “parch a synnwyr” er mwyn sicrhau cytundeb da yn y trafodaethau i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd llefarydd ar ran Rhif 10 nad oedd yr adroddiadau am y cyfarfod, a ymddangosodd mewn papur newydd yn yr Almaen, yn wir a bod y Prif Weinidog a Jean-Claude Juncker “wedi ei gwneud yn glir bod y cyfarfod wedi bod yn un adeiladol cyn i’r broses negydu ddechrau’n ffurfiol.”

“Anodd”

Roedd adroddiadau o Frwsel wedi awgrymu bod Jean-Claude Juncker wedi rhybuddio arweinwyr y 27 gwlad sy’n weddill yn yr UE y gallai’r trafodaethau Brexit chwalu oherwydd y gwahaniaethau rhwng y ddwy ochr ynglŷn â materion allweddol.

Yn ôl adroddiadau roedd Jean-Claude Juncker wedi ffonio Canghellor yr Almaen Angela Merkel i’w rhybuddio bod agwedd Theresa May tuag at y trafodaethau o “galaeth ar wahân” i weddill aelodau’r UE.

Mae’r Prif Weinidog wedi ceisio tawelu’r dyfroedd drwy ddweud bod yr adroddiadau’n dangos y bydd y trafodaethau yn “anodd” ar adegau.

Ond mae’r gwrthbleidiau’n dadlau bod y Llywodraeth yn anelu tuag at “Brexit caled” a fyddai’n gadael pobl gwledydd Prydain ar eu colled.

“Dros y dibyn”

Dywedodd llefarydd Brexit y Blaid Lafur Syr Keir Starmer bod yr adroddiadau yn dystiolaeth bellach bod agwedd Theresa May tuag at y trafodaethau Brexit “mewn perygl o arwain Prydain dros y dibyn.”

Yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Tim Farron bod y Llywodraeth “yn arwain y wlad at Brexit caled trychinebus” ac nad oes “ganddi syniad beth i’w wneud nesaf.”

Ac ar ran yr SNP, dywedodd gweinidog yr Alban sy’n gyfrifol am drafodaethau’r UE, Michael Russell, bod y “trychineb yma sydd ar droed yn dangos yn union pam na ddylid caniatáu i Theresa May atal penderfyniad Senedd yr Alban i roi dewis i bobl yr Alban ynglŷn â’u dyfodol pan fydd telerau Brexit yn glir.”

Ychwanegodd: “Fe fyddai gadael yr UE heb gytundeb – a heb gytundeb ar fynediad i’r farchnad sengl – yn weithred hunan-niweidiol a fyddai’n niweidio economi’r Deyrnas Unedig a’r Alban.”