Cyfryngau cymdeithasol (Llun: Gwefan y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cartref)
Mae pwyllgor o Aelodau Seneddol wedi cyhuddo cwmnïau cyfryngau cymdeithasol o fethiant “cywilyddus” i fynd i’r afael a phropaganda brawychol ar-lein ac eithafiaeth.

Mewn adroddiad damniol mae’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cartref wedi cyhuddo’r cwmnïau mawr o wneud mwy o ymdrech i ddiogelu eu helw na chadw’r cyhoedd yn ddiogel ar-lein.

Dylai gweinidogion ystyried gorfodi cwmnïau i dalu tuag at y gost o blismona’r cyfryngau cymdeithasol a chyflwyno system o sancsiynau gyda dirwyon o filiynau o bunnau, meddai’r pwyllgor.

Mae’r pwyllgor trawsbleidiol, a oedd wedi casglu tystiolaeth gan Google, Facebook a Twitter, yn cydnabod bod y cwmnïau wedi ystyried yr effaith mae eithafiaeth a chamdriniaeth yn ei gael ar unigolion a’u bod wedi croesawu mesurau i fynd i’r afael a’r broblem.

Ond maen nhw hefyd yn dweud “nad oes digon yn cael ei wneud.”

Yn ôl y pwyllgor, roedd wedi dod o hyd i nifer o esiamplau lle’r oedd cwmniau cyfryngau cymdeithasol wedi methu tynnu cynnwys anghyfreithlon ar ôl cael cais i wneud hynny, gan gynnwys deunydd ar gyfer recriwtio brawychwyr, a hybu cam-drin plant yn rhywiol.

Mae’r ASau wedi cyhuddo Google, sy’n berchen ar YouTube, o wneud elw o gasineb gan fod hysbysebion yn ymddangos ochr yn ochr â “chynnwys amhriodol ac annerbyniol, rhai sy’n cael eu creu gan sefydliadau brawychol” – gyda’r rhai sy’n cynhyrchu’r cynnwys hefyd yn cael cyfran o’r elw.

Er bod rhai hysbysebwyr wedi tynnu eu busnes o’r safle ac y gallai Google ddioddef yn ariannol yn sgil hynny, “y ffaith yw bod un o gwmnïau mwya’r byd wedi elwa o gasineb ac wedi caniatáu ei hun i fod yn blatfform lle gall eithafwyr gynhyrchu refeniw,” meddai’r adroddiad.

Dywed yr ASau ei fod hefyd yn “annerbyniol” bod y cwmniau yn dibynnu ar ddefnyddwyr i adrodd am gynnwys anghyfreithlon, sy’n costio dim iddyn nhw, tra’n disgwyl i’r heddlu – sy’n cael eu hariannu gan y trethdalwr – i dalu’r costau o gadw eu platfformau’n “glir o eithafiaeth.”

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor Yvette Cooper: “Mae methiant cwmniau cyfryngau cymdeithasol i fynd i’r afael a deunydd anghyfreithlon a pheryglus ar-lein yn warthus.

“Maen nhw wedi cael cais droeon i ddod o hyd i system well i dynnu deunydd anghyfreithlon  ac eto maen nhw wedi methu a gwneud hynny. Mae’n gywilyddus.”

Mae’r Ysgrifennydd Cartref Amber Rudd wedi dweud ei bod yn disgwyl i gwmnïau cyfryngau cymdeithasol “weithredu’n fuan ac yn effeithlon” ac mae hi wedi rhoi addewid i ystyried argymhellion y pwyllgor.