(llun: PA)
Mae’r arolwg barn diweddaraf yn yr Alban yn awgrymu mai canran debyg – sef 45% – sydd o blaid annibyniaeth i’r hyn oedd yn y refferendwm yn 2014.

Ar y llaw arall, mae’n ymddangos fod ychydig yn fwy o bobl o blaid rhyw ffurf o annibyniaeth i’r Alban nag sydd yn erbyn.

Mae’r arolwg yn dangos bod 41% o blaid annibyniaeth i’r Alban o fewn yr Undeb Ewropeaidd a 10% o blaid annibyniaeth y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.

Ar y llaw arall, dywedodd 48% eu byddai’n well ganddyn nhw weld yr Alban yn aros o fewn y Deyrnas Unedig ond y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd 52% o’r ymatebwyr hefyd na ddylai’r Prif Weinidog Theresa May rwystro ail refferendwm ar annibyniaeth os bydd yr SNP yn rhoi ymrwymiad i bleidlais o’r fath yn ei maniffesto ac yn ennill mwyafrif o etholaethau’r Alban.

Er bod yr arolwg yn awgrymu y gallai’r Ceidwadwyr gipio rhai o seddau’r SNP yn yr etholiad hwn, mae’r SNP yn dal yn debygol o fod ymhell ar y blaen.

Cafodd 1,029 o oedolion eu holi gan gwmni Panelbase for gyfer yr arolwg yn Sunday Times yr Alban.