Hanner marathon Brighton (Llun: Flickr)
Mae trefnwyr Hanner Marathon Brighton wedi ymddiheuro ar ôl darganfod fod y cwrs yn ystod y tair blynedd wedi bod yn rhy fyr.

Mae’r ffaith fod y cwrs 146 metr yn rhy fyr yn golygu bod athletwyr wedi colli eu hamserau gorau personol.

Cafodd ymchwiliad ei gynnal ar ôl i athletwyr godi amheuon am y data oedd yn ymddangos ar ddyfeisiau tracio personol.

Mewn datganiad, dywedodd trefnwyr y digwyddiad fod troad ar y cwrs “yn y lle anghywir”, gan ymddiheuro wrth yr athletwyr.

Cafodd yr hanner marathon ei gynnal am y tro cyntaf 27 o flynyddoedd yn ôl ac mae’n codi arian at ganolfan HIV yn Brighton.