Nicola Sturgeon Llun: PA
Mae disgwyl i Aelodau Seneddol yr Alban gefnogi galwadau Nicola Sturgeon i gynnal ail refferendwm ar annibyniaeth mewn pleidlais yn Holyrood heddiw.

Wythnos ddiwethaf, fe ddechreuodd dadl yn Senedd yr Alban i benderfynu a ddylai’r Prif Weinidog geisio caniatâd i gynnal ail bleidlais rhwng yr hydref y flwyddyn nesaf a’r gwanwyn 2019 ond bu’n rhaid rhoi’r gorau i’r ddadl yn sgil y newyddion am ymosodiad Llundain.

Cafodd y bleidlais ei gohirio ond fe fydd yn cael ei chynnal heddiw. Mae disgwyl i Blaid Werdd yr Alban helpu Llywodraeth yr Alban i basio’r cynnig sy’n gofyn am fandad i gynnal trafodaethau gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Roedd Nicola Sturgeon wedi cwrdd â Theresa May yn Glasgow ddydd Llun ac mae’r Prif Weinidog wedi pwysleisio unwaith eto “nad dyma’r amser” i gynnal refferendwm arall gan awgrymu y bydd hi’n gwrthod amserlen yr SNP.

Mae gwleidyddion Ceidwadol, Llafur a Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban wedi ei gwneud yn glir y byddan nhw’n pleidleisio yn erbyn ail refferendwm.

Roedd tua 62% o bobl yr Alban wedi pleidleisio o blaid aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin 2016.