Douglas Carswell (llun Wikipedia Steve Punter CCA 2.0)
Mae Douglas Carswell, unig Aelod Seneddol Ukip, yn gadael y blaid a bydd yn eistedd yng Nhŷ’r Cyffredin fel aelod annibynnol.

Dywedodd ei fod yn gadael ar delerau “cyfeillgar” ac na bydd angen iddo alw is-etholiad yn ei etholaeth, Clacton, gan na fydd yn ail-ymuno â’r Torïaid nac unrhyw blaid arall.

Daw ei ymddiswyddiad ar ôl ffrae gyhoeddus gyda chefnogwr ariannol mwyaf Ukip, Arron Banks, a’r cyn-arweinydd Nigel Farage.