Gallai rheolau’n ymwneud â hawl aelodau seneddol i dderbyn ail swydd gael eu newid yn dilyn penodi’r cyn-Ganghellor George Osborne yn olygydd papur newydd y London Evening Standard.

Bydd yn dechrau’r swydd ym mis Mai, ac mae e eisoes wedi dweud ei fod yn bwriadu parhau i fod yn aelod seneddol yn Sir Gaer ar yr un pryd.

Ond mae cadeirydd y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus, yr Arglwydd Bew wedi dweud wrth bapur newydd y Times y byddai’r pwyllgor yn trafod a ddylid newid y rheolau.

“Dydyn ni ddim wedi wfftio’r posibilrwydd o ASau yn cael ail swyddi, yn fwriadol felly, tan nawr, ond nawr mae’n rhaid i ni edrych ar ein rheolau unwaith eto.

“Ry’n ni’n mynd i drafod a oes angen ein rheolau ar ail swyddi yng ngoleuni hyn.

“Roedd gyda ni rywbeth oedd yn gweithio i raddau. Mae’n ymddangos ein bod ni bellach yn mynd i ddyfroedd mwy tymhestlog.”

Mae’n gwadu bod y trafodaethau’n tynnu sylw unigol at achos George Osborne, ond mae’n dweud bod y mater wedi codi amheuon am “faint o amser sydd gan ASau i’w neilltuo ar gyfer eu gwaith seneddol”.

‘Anghredadwy’

Mae aelod seneddol yr SNP, Tommy Sheppard, sy’n un o aelodau’r pwyllgor, wedi dweud wrth y Sunday Telegraph ei bod hi’n “anghredadwy” fod aelod seneddol yn credu ei fod e’n gallu gwneud y ddwy swydd.

Dywedodd fod rhaid i ail swydd fod yn “rhywbeth nad yw’n eich atal rhag gwneud eich swydd gyntaf fel aelod seneddol”.

“Allwch chi ddim golygu’r Evening Standard a chynrychioli’ch etholwyr mewn unrhyw ffordd ystyrlon. Faint o bleidleisiau fyddech chi’n eu hepgor yn Nhŷ’r Cyffredin, er enghraifft? Mae’n anghredadwy.”

Ymchwiliad

Mae rhai aelodau seneddol yn galw am ymchwiliad i benodiad George Osborne, gan honni bod rheolau wedi cael eu torri am nad oedd e wedi cael caniatâd y Pwyllgor Ymgynghorol ar Benodiadau Busnes cyn derbyn y swydd.

Mae e eisoes wedi derbyn swydd fel ymgynghorydd i BlackRock ar gyflog chwarterol o £162,500 am 12 diwrnod o waith, ac mae e eisoes wedi ennill dros £780,000 fel siaradwr cyhoeddus ers gadael ei swydd fel Canghellor.

Mae e hefyd yn derbyn £120,000 fel cymrawd gwleidyddol yn Washington.