Rali yn Parliament Square y llynedd (Llun: PA)
Mae cannoedd o bobol wedi ymgasglu yn Llundain i orymdeithio yn erbyn hiliaeth ac i fynegi pryder am ddyfodol mewnfudwyr yng ngwledydd Prydain.
Dydy hi ddim yn glir eto pa hawliau fydd gan fewnfudwyr yng ngwledydd Prydain ar ôl i’r broses ffurfiol o adael yr Undeb Ewropeaidd ddechrau.
Dechreuodd yr orymdaith y tu allan i swyddfeydd y BBC yn Portland Street, cyn mynd tuag at Parliament Square.
Ymhlith y siaradwyr mewn rali sydd wedi’i threfnu gan Stand Up To Racism, mae’r cyn-garcharor yn Guantanamo, Mozzam Begg.
Daw’r orymdaith ddiweddaraf ar ôl cyfres o ddigwyddiadau tebyg adeg urddo Donald Trump yn Arlywydd yr Unol Daleithiau fis diwethaf.