George Osborne (Llun: PA)
Fe fydd George Osborne yn “wrthblaid fwy effeithiol” fel golygydd papur newydd yr Evening Standard na’r Blaid Lafur, yn ôl y perchennog Evgeny Lebedev.

Mae’r penodiad wedi cael ei feirniadu’n sylweddol am fod George Osborne yn bwriadu parhau â’i waith fel aelod seneddol yn Sir Gaer, yn ogystal â chwblhau pum rôl arall yn ddi-dâl.

Mae amheuon wedi’u codi am yr amser y gall ei neilltuo i fod yn aelod seneddol, swydd sy’n galw am oriau llawn amser.

Dywedodd Evgeny Lebedev ar Twitter: “Hen commentariat trist. Arhoswch i weld cyn barnu.

“Torïaid yn dweud nawr y bydd e’n beirniadu’r Llywodraeth. Llafur yn dweud ei fod yn ‘stooge’ Torïaidd. Felly, p’un?!”

Ychwanegodd y byddai George Osborne yn “wrthblaid fwy effeithiol i’r Llywodraeth na’r Blaid Lafur bresennol”, ac y byddai’n “sefyll i fyny dros Lundain a Llundeinwyr”.

Ymhlith y rhai eraill sydd wedi amddiffyn George Osborne mae Michael Gove, sy’n golofnydd gyda’r papur newydd The Times, gan ddweud ei fod yn croesawu “recriwtiaid o safon uchel i fyd newyddiaduraeth”.

Ymchwiliad

Ond mae’r Blaid Lafur yn galw am ymchwiliad i’r penodiad, gan honni nad oedd George Osborne wedi cael caniatâd i gael ei benodi yn unol â rheolau i gyn-weinidogion a phobol eraill mewn swyddi cyhoeddus.

Mae nifer o aelodau seneddol Llafur wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu ymchwilio i’r mater.