Mae dynes wedi marw yn dilyn tân mewn fflat yn Swydd Caer.
Cafodd diffoddwyr tân eu galw i ardal Warrington am 9.07pm neithiwr.
Cafwyd hyd i’r ddynes yn farw mewn ystafell wely.
Mae ymchwiliad ar y gweill, ond dydy marwolaeth y ddynes ddim yn cael ei thrin fel un amheus.