Mae cyn-gadeirydd y BBC, Syr Christopher Bland wedi marw’n 78 oed ar ôl brwydr yn erbyn canser.

Roedd yn bennaeth y Gorfforaeth cyn mynd ymlaen i weithio i’r Royal Shakespeare Company a BT.

Cafodd ei gydnabod ar ddechrau’r ganrif am weddnewid sefyllfa ariannol BT.

Fe symudodd ymlaen wedyn i’r Royal Shakespeare Company, lle’r oedd yn gyfrifol am ddatblygu prif theatr y cwmni ac am lwyfannu holl weithiau Shakespeare dros gyfnod o flwyddyn.

Yn ystod ei yrfa, roedd hefyd yn gadeirydd ysgol fwyd a gwin a chwmni llyfrau Canongate.

Cynrychiolodd Iwerddon mewn cleddyfa yn y Gemau Olympaidd yn 1960, ac fe luniodd y nofel ‘Ashes in the Wind’ yn y 1970au, a chael ei ganmol gan Melvyn Bragg.

Cyhoeddodd ail gyfrol, ‘Cathar’ y flwyddyn diwethaf, ynghyd â drama a gafodd ei chynhyrchu yn Llundain.

Cafodd ei urddo’n farchog yn 1993 am ei waith fel cadeirydd nifer o ysbytai.

Dywedodd cyfarwyddwr cyffredinol y BBC, Syr Tony Hall ei fod yn “gadeirydd rhagorol” ac yn “gyfathrebwr gwych”.

Mae’n gadael gwraig, mab, dau lysfab a dwy lysferch.