Fe fydd y ddeddfwriaeth a fydd yn galluogi Llywodraeth Prydain i ddechrau ar y broses Brexit, yn cael ei gyhoeddi heddiw.

Cafodd y Llywodraeth eu gorfodi i lunio’r mesur yn dilyn dyfarniad y Goruchaf Lys bod yn rhaid gofyn caniatâd seneddol cyn dechrau’r broses o dynnu allan o Ewrop.

Mi fydd y Mesur yn cael ei gyflwyno bnawn Iau, wedi iddo gael ei frysio trwy Dŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi fel bod prosesau Erthygl 50 yn cael eu tanio cyn diwedd mis Mawrth.

Newidiadau

Mae disgwyl bydd Aelodau Seneddol o bob plaid yn ceisio ychwanegu newidiadau i’r ddeddfwriaeth, gyda’r SNP yn bygwth 50 o ddiwygiadau a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ystyried gwrthwynebu Erthygl 50 yn gyfan gwbwl.

O fewn y blaid Lafur, mae nifer o Aelodau Seneddol wedi addo pleidleisio yn erbyn y bil er bod arweinydd y blaid wedi addo na fydd y blaid yn blocio Erthygl 50.

Bydd pwysau hefyd ar y Prif Weinidog Theresa May i gyflwyno papur wen cyn pleidlais ar ddechrau prosesau gadael yr Undeb Ewropeaidd.