Mae Theresa May wedi beirniadu darpar Arlywydd yr Unol Daleithiau am ei sylwadau am gyffwrdd menywod.

Daw ei sylwadau ar ôl i Donald Trump ddweud ei fod e’n edrych ymlaen “yn fawr” at gyfarfod â Phrif Weinidog Prydain.

Roedd tâp o 2005 oedd yn cynnwys sylwadau Donald Trump am fenywod yn gadael iddo eu cyffwrdd oherwydd ei “statws” yn gysgod tros ei ymgyrch arlywyddol.

‘Perthynas arbennig’

Dywedodd Theresa May wrth raglen Sophy Ridge On Sunday ar Sky News fod y sylwadau’n “annerbyniol”, ond gwnaeth hi gydnabod ei fod e wedi ymddiheuro amdanyn nhw.

“Ond mae perthynas y DU â’r Unol Daleithiau’n golygu llawer mwy na dim ond y berthynas rhwng y ddau unigolyn sy’n Arlywydd ac yn Brif Weinidog.

“Mae hynny’n bwysig, ond mewn gwirionedd mae gyda ni berthynas hirdymor arbennig gyda’r Unol Daleithiau.”

Mae disgwyl i Theresa May a Donald Trump gyfarfod yn Washington yn y gwanwyn, o bosib yn ystod yr wythnosau ar ôl i’r Gweriniaethwr ddod yn Arlywydd ar Ionawr 20.