Nigel Farage (llun UKIP)
Mae cyn-arweinydd UKIP, Nigel Farage, wedi beirniadu Archesgob Caergaint am roi “negeseuon negatif” adeg y Nadolig.

Roedd yr Archesgob, Justin Welby, wedi sôn am ansicrwydd yn sgil digwyddiadau diweddar ac wedi awgrymu bod hynny oherwydd eu bod yn dewis y pethau anghywir.

Er nad oedd wedi sôn am y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd, fe ymatebodd Nigel Farage ar Twitter trwy ddweud wrth bobol anwybyddu’r neges honno a mwynhau eu Nadolig.

Ond roedd Justin Welby, sy’n gyn-ddyn busnes, wedi sôn am ‘economeg anghyfiawnder’ gan awgrymu mai “gogoniant Duw” fyddai’n cael gwared ar hynny ac ar ofn.

Roedd wedi gweld y gogoniant hwnnw eleni, meddai, ymhlith y bobol ar yr ymylon, y rhai sydd wedi eu hanwybyddu a’r rhai sy’n cael eu herlid am eu cred.