Sports Direct - un o'r cwmniau a gafodd eu henwi gan Frances O'Grady (Joe Giddens/PA Wire)
Mae astudiaeth wedi datgelu bod 3 miliwn o bobol yn gweithio mewn swyddi “anniogel ac ansicr”.

Yn ôl yr ymchwil gan Gyngres yr Undebau Llafur, y TUC, mae canran uchel o weithwyr gwledydd Prydain heb amddiffyniad rhag cael eu diswyddo’n annheg ac heb dâl diswyddo.

Yn ôl eu hadroddiad, mae un o bob 10 person yn gweithio o fewn yr ‘economi gig’, hynny yw i gyflogwyr sydd yn benna’ yn cyflogi gweithwyr ar hap, heb gytundebau traddodiadol na threfniant tymor hir.

Yn ôl y TUC, mae pobol ar gontractau dim oriau  yn ennill £3.80 yn llai’r awr na gweithwyr arferol ac mae tâl hanner miliwn mor isel fel nad oes ganddyn nhw’r hawl i dderbyn tâl salwch.

Diogelu gweithwyr

Mae’r TUC wedi galw ar i adolygiad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig argymell cryfhau cyfreithiau i ddiogelu gweithwyr mewn swyddi ansicr.

“Mae gwaith ansicr wedi cynyddu’n eithafol yn y ddegawd ddiwethaf. Yn llawer rhy aml yr unig rai sydd yn elwa yw cyflogwyr gwael. Ni all Sport Direct fod yn fodel i gyflogwyr y 2020au,” meddai Frances O’Grady, Ysgrifennydd Cyffredinol y TUC.