Mae dyn a gafodd ei arestio ym maes awyr Stansted wrth iddo geisio teithio i Syria wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.

Cafodd ei arestio ddydd Gwener ar amheuaeth o baratoi gweithgarwch brawychol.

Cafodd ei holi yn y ddalfa yn ne Llundain cyn cael ei ryddhau.

Fe yw’r ail ddyn i gael ei arestio yno yr wythnos hon, ar ôl i ddyn 49 oed gael ei arestio ddydd Llun.