Y meddyg teulu Caroline Johnson (o'i thudalen Facebook)
Mae’r Ceidwadwyr wedi cadw eu sedd mewn isetholiad yn Sleaford a Gogledd Hykeham neithiwr wrth i’r Aelod Seneddol newydd, Caroline Johnson, gipio 53.5% o’r bleidlais.

Ac mae’r canlyniad yn cael ei weld yn hwb i wleidyddion sy’n credu mewn Brexit caled wrth i wrth-Ewropead cadarn ddisodli amheuwr.

Yn ei haraith dderbyn, fe addawodd gefnogi’r Prif Weinidog Theresa May i sicrhau y bydd Brexit yn digwydd a hynny wedi i’r etholaeth bleidleisio i adael yn refferendwm yr Undeb Ewropeaidd eleni.

UKIP yn ail

Daeth UKIP i’r ail safle yn yr isetholiad neithiwr gyda 13.5% o’r bleidlais, ac fe syrthiodd Llafur i’r pedwerydd safle y tu ôl i’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Bu’n rhaid cynnal yr isetholiad wedi i’r Aelod Seneddol, Stephen Phillips, ymddiswyddo o ganlyniad i “wahaniaethau polisi digymod.”

Roedd Stephen Phillips wedi galw dro ar ôl tro ar Theresa May i ddatgelu ei chynllun Brexit i’r Senedd cyn dechrau ar y broses ffurfiol o adael yr Undeb Ewropeaidd, gan ychwanegu nad oedd yn gallu “cynrychioli ei etholwyr” yn iawn.

‘Canlyniad gwych’

Yn ei haraith dywedodd Caroline Johnson, “rwy’n edrych ymlaen at gryfhau mwyafrif y Llywodraeth yn y Senedd fel y gall Theresa May, ein Prif Weinidog, barhau a’r dasg o danio Erthygl 50, gadael yr Undeb Ewropeaidd ac adeiladu gwlad ac economi sy’n gweithio i bawb.”

Dywedodd arweinydd newydd UKIP, Paul Nutall, fod codi i’r ail safle yn “ganlyniad gwych” i’r blaid.

“Pe bai rhywun wedi cynnig imi’r ail safle ar ddechrau’r ymgyrch, gan ystyried ein bod ynghanol etholiad arweinydd a’r blaid yn tueddu at ychydig o lanast dros yr haf, fyddwn i ddim wedi’u credu,” meddai Paul Nutall.