Mae Pwyllgor Seneddol wedi rhybuddio Llywodraeth Prydain i beidio â thrin llywodraethau wedi’u datganoli yn eilradd wrth drafod Brexit.
Mae angen perthynas agosach rhwng Bae Caerdydd, San Steffan, Holyrood, a Stormont ym mhroses Brexit, yn ol Pwyllgor Seneddol dros Faterion Cyfansoddiadol.
Mae’r Pwyllgor seneddol yn cynnig fod angen troi y cyfarfodydd hyn rhwng Llywodraethau’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn uwchgynadleddau llawn rhwng y pedair gwlad.
Dywedodd y pwyllgor aml-bleidiol, “Fe fydd proses i adael yr Undeb Ewropeaidd nid yn unig yn gofyn am ddiplomyddiaeth ar lefel Ewropeaidd ond hefyd ar lefel o fewn Gwledydd Prydain hefyd.”
“Mae angen datblygu perthynas rhyng-lywodraethol mwy effeithiol ym Mhrydain.”
Mae’r pwyllgor seneddol yn dadlau nad yw’r Cyngor Rhyng-weinidogaethol ar hyn o bryd “yn gallu dygymod gyda’r cyfrifoldeb cynyddol sylweddol”.