Mae’r cyn-hyfforddwr pêl-droed, sydd wedi sbarduno ymchwiliad i achosion hanesyddol o gam-drin plant yn rhywiol, wedi cael ei gludo i’r ysbyty ar ôl digwyddiad lle’r oedd “pryder am ei les”.

Cafodd Barry Bennell, 62, ei drin gan barafeddygon mewn tŷ ger parc Knebworth yn Stevenage, Swydd Henffordd nos Wener ar ôl y digwyddiad.

Mae’n parhau i gael triniaeth yn yr ysbyty.

Cafodd ei garcharu am bedair blynedd yn 1994 am dreisio bachgen ar daith yn Florida, ac fe gafodd  ddedfryd arall o naw mlynedd dan glo yn 1998 am 23 o droseddau yn erbyn chwe bachgen.

Mae yn llygad y cyhoedd unwaith eto wedi i lu o gyn-chwaraewyr wneud honiadau ei fod wedi eu cam-drin yn rhywiol yn ystod ei gyfnod hefo Crewe Alexandra, Manchester City, a Stoke yn y 70au.

Mae pedwar llu heddlu bellach yn ymchwilio i achosion hanesyddol o gam-drin plant.