Theresa May (Llun: PA Wire/Hannah McKay)
Mae Prif Weinidog Prydain wedi cyfaddef nad oes ganddi ddigon o amser i gysgu wrth iddi geisio sicrhau bod y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd yn mynd rhagddi.

Mae hi wedi galw am fwrw ati i sicrhau bod Brexit yn digwydd, ar ôl adroddiadau bod pennaeth Banc Lloegr, Mark Carney yn awyddus i weld cwmnïau’n parhau i gael mynediad i’r farchnad sengl am ddwy flynedd ar ôl i wledydd Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ond yn ôl Theresa May, mae “materion cymhleth iawn” ynghlwm wrth y broses.

Dywedodd wrth y Sunday Times: “Yn y swydd hon, dydych chi ddim yn cael llawer o gwsg.”

Dywedodd fod y ffaith fod gwledydd Prydain yn wynebu “amser heriol iawn” yn ei chadw ar ddihun yn y nos.

“Wel, mae’n foment o newid. Mae’n amser heriol dros ben. Ac mae angen i ni fwrw ati i sicrhau cytundeb yn nhermau Brexit. A dw i’n ymwybodol iawn o hynny.

“Rwy am sicrhau bod popeth ry’n ni’n ei wneud yn sicrhau bod Prydain yn wlad sy’n gweithio i bawb, a’n bod ni’n mynd allan ac yn sicrhau swyddogaeth newydd yn y byd ôl-Brexit.

“Gallwn ni lwyddo, fe wnawn ni lwyddo. Ond mae’r materion hyn yn rhai cymhleth iawn.”

Yn ôl y Sunday Times, roedd Mark Carney wedi cynnal cinio yr wythnos diwethaf ar gyfer 50 o fancwyr buddsoddi a chinio arall ar gyfer cyfarwyddwyr ariannol banciau’r stryd fawr.