(llun: PA)
Fe fydd Aelodau Senedd Ewrop yn ystyried syniad arloesol i alluogi Prydeinwyr sy’n dewis gwneud  hynny i gael cadw eu dinasyddiaeth Ewropeaidd ar ôl i Brydain adael.

Ymysg cefnogwyr y syniad mae Guy Verhofstadt, sy’n cynrychioli Senedd Ewrop yn nhrafodaethau Brexit.

O dan y cynllun, byddai’r dinasyddion Prydeinig hynny sy’n dewis cadw eu dinasyddiaeth Ewropeaidd yn ogystal yn anfon ffi flynyddol i Frwsel.

“Mae llawer yn dweud nad oes arnyn nhw eisiau torri cysylltiadau,” meddai Guy Verhofstadt, cyn-brif weinidog Gwlad Belg. “Dw i’n hoffi’r syniad fod pobl sy’n ddinasyddion Ewropeaidd ac sy’n awyddus i barhau felly yn cael y cyfle i wneud hynny. Fel egwyddor, dw i’n hoffi hyn.”

Pleidleisio

Fe fydd Aelodau Seneddol Ewropeaidd yn pleidleisio ar y cynigion erbyn diwedd y flwyddyn, ond byddai’n rhaid i unrhyw gytundeb â Phrydain sy’n ymwneud â Brexit gael cytundeb holl arweinwyr 27 gwlad arall yr Undeb yn ogystal â’r senedd.

Mae rhai o gefnogwyr Brexit yn y Blaid Dorïaidd eisoes wedi datgan eu gwrthwynebiad chwyrn i’r syniad.

“Mae hwn yn ymgais i greu dau ddosbarth o ddinasyddion y Deyrnas Unedig a dad-wneud pleidlais y refferendwm,” meddai’r Aelod Seneddol Torïaidd Andrew Bridgen.

“Y gwir yw y bydd Brwsel yn rhoi cynnig ar bob tric i’n rhwystro ni rhag gadael.”

Dywedodd arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, ei fod yntau hefyd yn gwrthwynebu’r syniad.