Mae llywodraethau Cymru a’r Alban wedi cyflwyno dadleon i’r Goruchaf Lys yn amlinellu pam na all y Prif Weinidog Theresa May weithredu Erthygl 50 heb gymeradwyaeth seneddol.

Dywed yr Arglwydd Adfocad James Wolffe QC, prif swyddog cyfreithiol yr Alban, y bydd angen cydsyniad senedd yr Alban yn ogystal â chydsyniad San Steffan cyn y gall Theresa May gychwyn y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywed Cwnsler Cyffredinol Cymru, Mick Antoniw, hefyd ei fod yn cytuno ar yr angen am gydsyniad seneddau datganoledig gan gynnwys Cymru.

Ond yn wahanol i Arglwydd Adfocad yr Alban, mae Mick Antoniw yn pwysleisio nad yw’n “ceisio gwrthdroi canlyniad y refferendwm”.