Mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon wedi cadarnhau y bydd yn cyhoeddi mesur drafft yr wythnos nesa’ ar gyfer ail refferendwm annibyniaeth yr Alban yng nghynhadledd flynyddol yr SNP heddiw.

Fe ddywedodd Prif Weinidog yr Alban wrth y gynhadledd yn Glasgow fod angen gwarchod buddiannau’r wlad, ar ôl i’r Alban bleidleisio yn y refferendwm fis Mehefin o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd, tra fod Cymru a Lloegr wedi pleidleisio i adael.

Gyda chymeradwyaeth ar lawr y gynhadledd , dywedodd Nicola Sturgeon y bydd yn cyhoeddi mesur drafft ar refferendwm arall, “Dwi’n benderfynol y bydd gan yr Alban y gallu ail ystyried y cwestiwn o annibyniaeth ac i wneud hynny cyn bod Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd os yw hynny’n angenrheidiol i warchod buddiannau ein gwlad.”

Mae disgwyl y bydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn swyddogol ym Mawrth 2019.

Yn ystod yr araith, fe honnodd fod Llywodraeth Prydain wedi cael ei meddiannu gan elfennau asgell dde senoffobaidd.