Mae dyn fu dan glo am dagu dynes i farwolaeth ar ôl ceisio ei threisio, tra bod ei mab 11 oed yn cysgu, wedi dianc o’r carchar.

Dim ond am naw diwrnod yr oedd Stuart Brownhill wedi bod yn rhydd o’r carchar pan lofruddiodd Lynne Taylor yn ei chartref yn Werneth, Oldham, yn 1984.

Roedd y ddau wedi cwrdd ar noson allan, ac fe wnaethon nhw rannu tacsi gyda’i gilydd o glwb nos.

Pan roedd y ddau wedi cyrraedd cartref Lynne Taylor, gofynnodd Brownhill a allai ddod i mewn am baned… a’r bore wedyn cafwyd hyd i’w chorff.

Roedd Stuart Brownhill wedi ceisio ei rhoi ar dân er mwyn cuddio tystiolaeth, a hynny gan wybod fod y bachgen yn y tŷ pan ddechreuodd y tân.

Cafodd ei ddedfrydu i oes dan glo yn y carchar yn Llys y Goron Manceinion yn 1985.

Mae wedi dianc o garchar North Sea Camp ger Boston yn Swydd Lincoln.

Disgrifiad

Mae Stuart Brownhill yn bum troedfedd ac wyth modfedd o daldra, heb wallt, gyda llygad dde wyrdd a llygad chwith glas. Mae’n debyg ei fod yn gwisgo siaced frown a bŵts du.

Dywedodd Heddlu Swydd Lincoln fod y dyn 59 oed yn absennol wrth i’r carchar wneud cofrestr o’r carcharorion am bump o’r gloch y bore yma.

Mae gofyn i’r cyhoedd ei osgoi a chysylltu â’r heddlu ar 999 yn syth os byddan nhw yn ei weld.