Mae ffotograffydd wedi cael dros 11 mlynedd o garchar am ddrygio dynion cyn eu treisio yn ei gartref.
Roedd gan Nigel Brent Wilkinson, 43 ac o Fryste, wefan i hyrwyddo’i hun fel tynnwr lluniau o ddynion heini.
Defnyddiodd y cyfryngau cymdeithasol i hudo dynion i’w gartref ar gyfer sesiynau tynnu lluniau.
Unwaith yn ei gartref, roedd y ffotograffydd yn hwrjio diodydd ar y dynion. A heb yn wybod iddyn nhw, roedd cyffuriau cymell cwsg megis Rohypnol a Nitarzepam yn y diodydd dan sylw.
A phan oedd y dynion dan ddylanwad y cyffuriau, roedd Nigel Brent Wilkinson yn eu treisio.
Heddiw mae wedi ei ddedfrydu i 11 mlynedd a hanner dan glo yn Llys y Goron Bryste.
Wedi’r dyfarniad, dywedodd y Ditectif Gwnstabl Stacey Matthews bod Nigel Brent Wilkinson “ar yr olwg gyntaf, yn ffotograffydd gyda diddordeb mewn dynion heini oedd eisiau modelu.
“Ond tu ôl i ddrysau caeedig, roedd yn droseddwr rhywiol cyfrwys a ddefnyddiodd ei fenter tynnu lluniau i hwyluso a chuddio’i weithgareddau anllad.
“Mae ei ddioddefwyr wedi bod yn arwrol o ddewr ac urddasol drwy gydol ein hymchwiliad… mae’r troseddau hyn wedi cael effaith sylweddol arnyn nhw a’u teuluoedd.
“Rydym yn credu bod yna fwy o ddioddefwyr sydd heb gysylltu gyda ni hyd yma, a byddwn yn eu hannog i wneud hynny.”