Andy Burnham yn rhybuddio (llun o'i wefan)
Yn ôl un o wleidyddion mwya’ profiadol y Blaid Lafur, mae yna “bosibilrwydd real iawn” y bydd pobol gwledydd Prydain yn pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ac fe rybuddiodd Andy Burnham y gallai hynny arwain at chwalu’r Deyrnas Unedig hefyd – fe fyddai’r dominos yn dechrau syrthio, meddai.

Daeth sylwadau’r llefarydd Llafur ar faterion cartref wrth i ddau o aelodau blaenllaw meinciau cefn y blaid, Dennis Skinner a John Mann, gyhoeddi eu bwriad i bleidleisio dros Brexit.

Beirniadu ymgyrch Llafur

Ar y rhaglen deledu, Newsnight, roedd Andy Burnham wedi beirniadu ymgyrch ei blaid cyn y refferendwm, gan ddweud ei bod wedi methu â chyrraedd pleidleiswyr traddodiadol Llafur ynglŷn â mewnfudo.

“Os bydd y penderfyniad hwn yn cael ei wneud, bydd dominos yn dechrau disgyn. Nid yr Undeb Ewropeaidd yn unig fydd yn dechrau rhannu; bydd Prydain yn hefyd,” meddai.

Ar ôl i Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wneud ei araith fawr gynta’ yn yr ymgyrch, fe fydd cyn arweinydd y blaid Brydeinig, Ed Miliband, yn ymuno â’r ddadl heno hefyd, gydag araith yn Llundain, yn rhybuddio y bydd arweinwyr Brexit yn dileu hawliau gweithwyr.

Fodd bynnag, mae’r ymgyrch i adael yr undeb wedi cnoi yn ôl, gan ddweud bod yr ochr arall yn mynd “yn fwy anobeithiol a hysterig”. “Mae angen i ni bleidleisio i adael os ydyn ni am gymryd rheolaeth o’n heconomi, ein ffiniau a’n democratiaeth,” meddai llefarydd.

Dadl frwd

Fe fu dadl frwd ar y teledu neithiwr, gyda phanel o wleidyddion amlwg a chefnogwyr Aros yn cyhuddo’r Brexitiwr, Boris Johnson, o boeni dim am swyddi, heblaw y posibilrwydd ei fod ef ei hun yn cael swydd y Prif Weinidog.

Ac mae pôl piniwn yn awgrymu bod datganiadau gan y Prif Weinidog Prydeinig, David Cameron, tros Aros yn cael yr effaith arall ar etholwyr a’u hanfon i wersyll Brexit.