Gwnaeth economi Prydain arafu yn ystod chwarter cynta’r flwyddyn o ganlyniad i ddirywiad yn y diwydiannau gweithgynhyrchu ac adeiladu.

Yn ôl ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, cododd Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) 0.4% yn y cyfnod hwnnw, i lawr o 0.6% yn ystod chwarter ola’r llynedd.

Roedd perfformiad y diwydiant gweithgynhyrchu i lawr 0.4%, er ei fod wedi cynyddu 0.1% yn ystod y chwarter blaenorol. Roedd cynhyrchiant ar y cyfan i lawr 0.4%.

Roedd y ffigwr ar gyfer y diwydiant adeiladu i lawr 0.9%, o’i gymharu â chynnydd o 0.3% yn y chwarter blaenorol.

Roedd newyddion gwell i’r sector gwasanaethau – 78% o holl economi’r DU – wrth i’r ffigwr godi 0.6% yn ystod y chwarter cyntaf.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Ystadegau fod yr economi wedi crebachu yn ystod y chwarter, er bod gwasanaethau’n parhau i berfformio ar y lefel ddisgwyliedig.

‘Amryw ffactorau’

Mae sefyllfa economi’r byd, y refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd a llanw a thrai’r farchnad i gyd wedi cyfrannu at ddiffyg hyder busnesau yn ystod y chwarter cyntaf.

Dydy cyfraddau llog ddim wedi codi o 0.5% ers mis Mawrth 2009.

Rhybuddiodd pennaeth Banc Lloegr, Mark Carney yr wythnos diwethaf fod ansicrwydd ynghylch dyfodol Prydain yn Ewrop yn llesteirio twf yr economi.

Yn sgil yr ansicrwydd hwn, mae’r IMF wedi gostwng ei ddisgwyliadau ar gyfer economi’r DU.