Meryl Streep yn yr Oscars (Llun:PA)
Mae’r actores fyd-enwog Meryl Streep wedi datgelu ei body n gaeth i raglenni realiti Prydeinig fel Homes under the Hammer a Come Dine With Me.

Heno bydd yr actores i’w gweld ar raglen The Graham Norton Show BBC One yn hyrwyddo ei ffilm newydd, Florence Foster Jenkins, gyda’r actor Saesneg Hugh Grant.

“Mae gennyf obsesiwn ag unrhyw beth i wneud ag ystadau. Dw i’n dwlu ar Grand Designs a Homes Under the Hammer,” meddai wrth Graham Norton a’i westeion.

“Mae Come Dine With Me yn ardderchog hefyd.”

Fe ddywedodd ei bod yn casáu ei pherfformiad yn y ffilm The French Lieutenant’s Woman yn 1981, a gafodd ei henwebu am Oscar, gan ei bod yn “ifanc ac yn newydd a ddim yn byw’r rôl”.

Hugh Grant “llai gwael nag arfer”

Dywedodd Hugh Grant ar y sioe ei fod wedi cael ei ddenu yn ôl i fyd actio gan Meryl Streep a sgript “â steil”.

Er ei fod wedi dweud wrth gyfarwyddwr y ffilm bod “y byd adloniant yn fy ngorffennol”, dywedodd fod y ffilm hon wedi newid ei feddwl.

Wrth ddisgrifio ei berfformiad ef yn y ffilm, dywedodd ei fod yn “llai gwael na fel arfer.”