Mae Tesco wedi cyhoeddi elw cyn treth o £162 miliwn am y flwyddyn hyd at 27 Chwefror o’i gymharu â cholledion o £6.3 biliwn yn y flwyddyn flaenorol.

Mae hefyd wedi cyhoeddi cynnydd o 0.9% mewn gwerthiant yn y DU yn y pedwerydd chwarter am y tro cyntaf ers tair blynedd.

Dywedodd y cwmni archfarchnad bod adferiad y grŵp o dan arweiniad y pennaeth Dave Lewis yn dangos “cynnydd sylweddol.”

Ond fe rybuddiodd bod y grŵp yn parhau i wynebu “marchnad heriol ac ansicr.”

Roedd Dave Lewis wedi olynu’r prif weithredwr Philip Clarke ym mis Medi 2014 yn ystod cyfnod llwm iawn yn hanes y cwmni.

O dan arweiniad Dave Lewis mae Tesco wedi cau 60 o siopau nad oedd yn gwneud elw ers dechrau ei flwyddyn ariannol ac wedi gohirio cynlluniau i agor 49 o siopau eraill, yn ogystal â thorri prisiau cannoedd o nwyddau.