Mae dau gorff wedi cael eu darganfod ar ôl i gwch pysgota suddo oddi ar arfordir ynysoedd gorllewinol yr Alban.

Roedd gwylwyr y glannau wedi derbyn galwad fod y cwch mewn trafferthion am 3.45 y bore yma a llwyddwyd i achub un o’r criw o bedwar.

Mae’r pysgotwr arall yn dal ar goll.

Meddai’r Prif Arolygydd Alastair Garrow o Heddlu’r Alban: “Gallwn gadarnhau bod cyrff dau ddyn wedi cael eu codi. Cafodd trydydd dyn ei achub ac aed ag ef i’r ysbyty yn Stornoway. Nid yw wedi cael ei anafu’n ddrwg.

“Roedd pedwerydd dyn ar y cwch ac mae’n dal ar goll. Rydym wedi hysbysu perthnasau agosaf pawb o’r dynion.

“Mae hwn wedi bod yn ddigwyddiad trychinebus a fydd yn effeithio ar y gymuned leol, ac rydym yn cydymdeimlo â’r teuluoedd.”