Y disgyblion ysgol olaf yn St Kilda, gan gynnwys Rachel Johnson (llun: Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/PA)
Mae brodores olaf ynys fwyaf pellennig Prydain wedi marw’n 93 oed.

Roedd Rachel Johnson yn wyth oed yn 1930 pan adawodd hi’r ynys sydd 40 milltir i’r gorllewin o’r Outer Hebrides yng ngogledd orllewin yr Alban.

Penderfynodd yr holl drigolion eraill adael yr ynys tua’r un pryd gan fod bywyd yn mynd yn fwy anodd iddyn nhw.

Ar ôl gadael yr ynys, ymgartrefodd Rachel Johnson a’i theulu yng Ngorllewin Sir Dunbarton, lle gweithiodd hi mewn cartref gofal.

‘Diwedd cyfnod’

Dywedodd Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Alban, fu’n gofalu am yr ynys ers 1957, fod ei marwolaeth yn nodi “diwedd cyfnod”.

“Fe ges i’r fraint o gyfarfod â Rachel ar sawl achlysur. Roedd hi’n breifat dros ben ond yn garedig eithriadol,” meddai rheolwr cyffredinol cefn gwlad ac ynysoedd gogleddol y corff, Alexander Bennett.

“Ar ran Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Alban a phawb sy’n gofalu am St Kilda, rydym yn estyn ein cydymdeimlad i’w theulu a’i ffrindiau niferus.

“Mae’n ddiwrnod trist ac yn wir yn ddiwedd cyfnod i ddysgu bod yr olaf o blith brodorion St Kilda wedi marw.”