Rhai o grysau T yr ymgyrch i adael (o wefan leave.eu)
Mae ymgyrch gyhoeddusrwydd gwerth £9.3 miliwn tros aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn ddefnydd “anfoesol, annemocrataidd” o arian trethdalwyr, meddai cefnogwyr gadael.

Ond mae Llywodraeth Prydain yn dadlau eu bod yn ymateb i alw gan y cyhoedd wrth anfon taflen i bob cartref yn y Deyrnas Unedig a hysbysebu ar wefannau cymdeithasol.

Yn ôl Stryd Downing, cafodd y penderfyniad ei wneud i ddosbarthu taflenni ar sail pôl piniwn oedd yn dangos bod 85% o’r rheiny oedd wedi ateb wedi gofyn am ragor o wybodaeth i’w helpu i lywio’u barn ar gyfer y refferendwm ar Fehefin 23.

‘Annheg’

Mae’r ymgyrch yn mynd yn groes i addewid Llywodraeth Prydain na fydden nhw’n ymyrryd yn ormodol yn y refferendwm, meddai cefnogwyr Brexit.

Ac maen nhw’n cyhuddo’r Llywodraeth o weithredu’n annheg trwy osgoi’r rheolau sy’n golygu y bydd y ddwy ochr yn nadl y refferendwm yn cael dosbarthu taflen yr un yn rhad ac am ddim.

Fe fydd y daflen yma wedi ei dosbarthu cyn cyfnod swyddogol yr ymgyrchu ac felly y tu allan i’r rheolau.

Y costau

Fe fydd y daflen yn costio £458,500 i’w chreu gyda mwy na £5.9 miliwn yn cael ei wario ar argraffu a dosbarthu a £2.9 miliwn arall ar greu gwefan a’i hyrwyddo drwy wefannau cymdeithasol a gwefannau eraill.

Mae Vote Leave, yr ymgyrch swyddogol o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd, yn anhapus fod y gost yn fwy na’r cyfanswm y bydd hawl ganddyn nhw i’w wario yng nghyfnod yr ymgyrchu.

Ond dadl y Llywodraeth yw mai bwriad y daflen yw rhoi ffeithiau i bobol, yn hytrach nag ymgyrchu.

Y feirniadaeth

Dywedodd arweinydd UKIP, Nigel Farage: “Pam fod y Llywodraeth yn gwario £10 miliwn o’n harian ni i ddweud wrthon ni beth ddylen ni ei feddwl a beth ddylen ni ei wneud?

“Mae hyn yn debyg iawn i’r hyn ddigwyddodd yn 1975, mae’n gyfreithiol amheus ac o ran moesau, mae’n anghywir. Roedd yn anghywir yn 1975 ac mae’n anghywir nawr.”

Ychwanegodd mai “brwydr y bobol yn erbyn y dosbarth gwleidyddol” fyddai’r refferendwm.