Silffoedd o ddiodydd (Silar CCA3.0)
Mae arbenigwyr wedi dweud ei bod hi’n debygol y bydd marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol yn cynyddu yng Nghymru a Lloegr ar ôl toriadau mewn trethi alcohol.

Yn y cyfamser, medden nhw, mae’n debygol y bydd nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig yn yr Alban yn parhau i ostwng os bydd y Senedd yno’n pasio gorfodi isafswm pris ar bob uned o alcohol.

Cysylltiad rhwng marwolaethau a phris

Mae’r ymchwil gan arbenigwyr blaenllaw, Nick Sharon a Ian Gilmore, yn awgrymu bod marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol yn gysylltiedig â lefel trethi.

Roedd nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol wedi treblu yng Nghymru a Lloegr mewn llai na 30 mlynedd – o 2,314 yn 1980, i 7,312 in 2008.

Roedd y rhan fwya’ o’r marwolaethau’n gysylltiedig â phroblemau gyda’r afu ac, yn ôl yr adroddiad, cafodd y cynnydd hwnnw ei achosi ” yn ôl pob tebyg” gan y ffaith fod alcohol cryf yn rhatach ac yn haws ei gael.

Ers 2008, mae marwolaethau wedi gostwng ychydig ac, yn ôl yr arbenigwyr, y rheswm mwya’ tebygol am hyn yw “ffactorau economaidd sy’n effeithio ar y defnydd o alcohol mewn yfwyr trwm – sef y dirwasgiad a chynnydd mewn trethi”.