Kezia Dugdale yn methu cofio gwneud cais am brofiad gwaith gyda'r SNP
Mae arweinydd Llafur yr Alban, Kezia Dugdale wedi dweud ei bod hi’n “chwerthinllyd” fod honiadau ei bod hi wedi gwneud cais am brofiad gwaith gyda’r SNP yn y gorffennol, yn ganolog i etholiadau seneddol yr Alban.

Cafodd yr honiadau eu gwneud ym mhapur newydd The Sun, oedd yn awgrymu ei bod hi wedi gwneud cais am brofiad gwaith gyda’r Aelod Seneddol Richard Lochhead yn 2003.

Dydy hi ddim wedi cadarnhau nac wfftio’r honiadau hyd yma.

Mae lle i gredu ei bod hi wedi gofyn i’r SNP am brofiad gwaith di-dâl tra ei bod hi yn ei blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Aberdeen, lle astudiodd hi’r Gyfraith.

Ond cafodd hi wybod nad oedd cyfleoedd ar gael iddi o fewn yr SNP ar y pryd.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw am ymchwiliad i ddarganfod sut y cafodd y wybodaeth ei datgelu.

Dywedodd arweinydd yr SNP, Nicola Sturgeon na ddylid barnu rhywun yn ormodol ar sail eu gorffennol.

Bydd etholiadau’r Alban yn cael eu cynnal ar Fai 5.