Ffatri cynhyrchu dur SSI yn Redcar, Teesside
Mae cyn-weithwyr dur yn ffatri SSI yn Redcar wedi cael iawndal o £6.25 miliwn oherwydd diffyg ymgynghori cyn i’r ffatri gau.

Roedd undeb Community wedi cymryd camau ar ran mwy na 1,100 o’i aelodau a oedd wedi colli eu swyddi pan gaeodd y ffatri’r llynedd. Fe fydd gweithwyr a oedd yn rhan o gais Community bellach yn derbyn gwerth wyth wythnos o gyflog gan y Llywodraeth.

Dywedodd yr undeb y gallai’r ffigwr fod wedi bod mwy na £14 miliwn ond gan fod SSI bellach wedi methdalu, fe fydd y gweithwyr yn cael yr hyn mae’r Llywodraeth yn ei dalu yn unig.

Ychwanegodd Roy Rickhuss, ysgrifennydd cyffredinol Community: “Mae hon yn fuddugoliaeth haeddiannol i’n haelodau SSI ac mae’n briodol bod y tribiwnlys wedi bod o’u plaid oherwydd y ffordd y cafodd y gweithwyr eu trin.

“Serch hynny, ni fydd y fuddugoliaeth fechan yma yn gwneud iawn am y difrod sydd wedi’i achosi o ganlyniad i dranc y diwydiant dur… Mae ein gwaith yn parhau i sicrhau dyfodol gwell i’r gymuned dur yn Teesside.”

Trafod yr argyfwng yng Nghymru

Daw’r cyhoeddiad wrth i grŵp o Aelodau Cynulliad glywed tystiolaeth gan ffigurau blaenllaw o’r diwydiant dur, ddeufis ar ôl i 750 o weithwyr golli eu swyddi ym Mhort Talbot.

Mae aelodau o gwmni Tata Steel, a chwmni Celsa a Liberty Steel wedi bod yn cyfarfod â Phwyllgor Menter a Busnes y Cynulliad er mwyn trafod cyflwr y sector.

Mae undebau llafur y diwydiant hefyd yn rhoi tystiolaeth, gan gynnwys Gweinidog yr Economi, Edwina Hart.

Mae’r diwydiant yn mynd drwy gyfnod ansicr iawn, gyda chostau ynni uchel a dur rhad o China yn effeithio arno.