Mae banc Barclays wedi cyhoeddi gostyngiad o 2% yn ei elw blynyddol cyn treth i £5.4 biliwn.

Daw’r canlyniadau wrth i Barclays gyhoeddi y bydd yn rhannu’r grŵp yn ddau ran – Barclays UK a Barclays Corporate and International, gyda’r bwriad o werthu ei gyfran yn ei busnes yn Affrica dros y ddwy neu dair blynedd nesaf.

Mae hefyd wedi cyhoeddi y bydd yn gorfod talu £1.45 biliwn arall yn sgil cam-werthu yswiriant PPI, gan olygu y bydd wedi talu cyfanswm o £7.42 biliwn.