Mae un o actorion y BBC wedi cael ei holi gan yr heddlu ar amheuaeth o ymosod yn rhywiol ar ddyn 23 oed mewn gwesty.

Dydy’r actor ddim wedi cael ei enwi am resymau cyfreithiol, ond mae lle i gredu ei fod yn wyneb cyfarwydd ar un o raglenni teuluol y Gorfforaeth, meddai’r Independent.

Dywed y Daily Mirror fod yr actor yn gwadu’r honiadau.

Pan ddaeth y BBC yn ymwybodol o’r honiadau, daeth y ffilmio i ben, a dydy’r actor ddim yn ffilmio gyda nhw ar hyn o bryd.

Cadarnhaodd yr heddlu fod ymchwiliad ar y gweill.

Daw’r honiadau wythnos yn unig wedi i adroddiad y Fonesig Janet Smith ddod i’r golwg.

Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar ymddygiad o fewn y BBC rhwng 1964 a 2007, y cyfnod pan oedd Jimmy Savile yn ddarlledwr blaenllaw.