Sian Blake
Mae’r heddlu yn “gynyddol bryderus” am wraig 43 oed sydd wedi mynd ar goll gyda’i dau o blant bach.

Does neb wedi gweld Sian Blake na’i phlant Zachary, 8, ac Amon, 4, ers dydd Sul, Rhagfyr 13, a hynny yn ardal Waltham Forest yn nwyrain Llundain. Mae’r heddlu yn Bexley yn credu y gallai’r fam a’r plant fod yn ardal Llundain o hyd.

Mae Heddlu’r Met wedi gofyn am gymorth y cyhoedd er mwyn ceisio dod o hyd iddi.

Mae Sian Blake wedi’i disgrifio fel dynes fain o gorff, 5 troedfedd 2 fodfedd o daldra, gyda gwallt du, byr. Mae hi’n gwisgo sbectol, ond mae hi hefyd, weithiau, yn defnyddio lensys cyffwrdd yn ei llygaid.