Mae Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, yn dweud bod “rhaid i Boris Johnson ymddiswyddo” yn dilyn honiadau bod parti pen-blwydd wedi’i gynnal iddo yn ystod y cyfnod clo yn 2020.

Fe ddaeth i’r amlwg mewn adroddiad gan ITV fod hyd at 30 o bobol wedi ymgynnull “am gyfnod byr” yn Ystafell y Cabinet yn Rhif 10 Downing Street i ddymuno “pen-blwydd hapus” iddo ar Fehefin 19, 2020 – ar adeg pan nad oedd modd i bobol ymgynnull dan do.

Pan gafodd y cyfyngiadau eu llacio, roedd modd i chwe pherson ymgynnull yn yr awyr agored.

Mae lle i gredu mai Carrie, gwraig Boris Johnson, oedd wedi trefnu’r parti syrpreis a bod y gwesteion wedi canu “Pen-blwydd Hapus”. Yn eu plith roedd Lulu Lytle, y dylunydd oedd wedi adnewyddu ei fflat, a hithau yno am “resymau gwaith”.

Yn ôl llefarydd ar ran Downing Street, roedd Boris Johnson yno “am lai na deng munud”, ond mae ITV yn dweud bod teulu a ffrindiau’r prif weinidog wedi ymgynnull i fyny’r grisiau yn ei gartref swyddogol – ond mae Downing Street yn gwadu hynny, gan ddweud bod pobol wedi ymgynnull tu allan.

Yn ôl ITV, cafodd bwyd ei brynu o M&S, ac fe gafodd ei fwyta yn ystod digwyddiad oedd wedi para hyd at 30 munud, tra bod Carrie Johnson a Lulu Lytle wedi rhoi cacen i’r prif weinidog.

Mae lle i gredu bod Martin Reynolds, ysgrifennydd preifat Boris Johnson, yno hefyd.

Amddiffyn y prif weinidog

Ymhlith y rhai sy’n amddiffyn Boris Johnson mae Nadine Dorries, Ysgrifennydd Diwylliant San Steffan, sydd wedi cwestiynu a oedd y digwyddiad yn torri unrhyw reolau.

“Felly pan fo pobol mewn swyddfa yn prynu cacen yng nghanol y prynhawn i rywun arall maen nhw’n gweithio gyda nhw mewn swyddfa, ac yn stopio am ddeng munud i ganu ‘Pen-blwydd hapus’ ac yna’n mynd yn ôl at eu desgiau, mae hynny bellach yn cael ei alw’n barti?” meddai ar Twitter.

Ond mae Jane Dodds wedi ymateb yn chwyrn, gan ddweud bod yn rhaid i Boris Johnson ymddiswyddo.

“Barti ar ôl parti, sgandal ar ôl sgandal, rydyn ni wedi gweld staen ar y prif weinidog a rheiny o’i amgylch wythnos ar ôl wythnos,” meddai.

“All hyn ddim para’n hirach ac mae pobol Cymru sydd wedi aberthu cymaint ers dechrau’r pandemig yn haeddu cymaint gwell.

“Rhaid i Boris Johnson ymddiswyddo.

“Mae hi hefyd yn hen bryd i Aelodau Seneddol Ceidwadol ac Aelodau Ceidwadol o’r Senedd ddechrau mynnu bod Boris Johnson yn ymddiswyddo os ydyn nhw am gadw unrhyw hygrededd yn y cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu.”

Ac mae Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur yn San Steffan, yn dweud bod Boris Johnson yn brif weinidog sy’n “credu nad yw’r rheolau wnaeth e’n berthnasol iddo fe”.

“Mae’r prif weinidog yn tynnu sylw’r genedl ac mae’n rhaid iddo fe fynd,” meddai.

Ymchwiliad Sue Gray

Mae Sue Gray, uwch was sifil yn Whitehall, yn cynnal ymchwiliad i gyfres o honiadau am bartïon yn Downing Street.

Ac wrth i Boris Johnson wynebu galwadau oddi mewn i’w blaid ei hun i ymddiswyddo, bydd yr honiadau newydd hyn yn ychwanegu at y pwysau sydd arno fe eisoes.

Mae disgwyl i Sue Gray gyhoeddi canlyniadau ei hymchwiliad yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Dydy hi ddim yn glir eto a fydd yr honiadau diweddara’n golygu y bydd yn rhaid oedi ymhellach cyn cyhoeddi’r adroddiad neu a oedd swyddog eisoes yn ymwybodol o’r mater.