Mae Boris Johnson o dan bwysau i ymddiswyddo o fod yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig yn dilyn ei sgandal diweddaraf.

Daw hyn ar ôl i ITV ddatgelu bod Martin Reynolds, prif ysgrifennydd preifat Boris Johnson, wedi anfon e-bost at fwy na 100 o weithwyr yn eu gwahodd i barti yng ngardd Downing Street ym mis Mai 2020, yn ystod y cyfnod clo.

Roedd yr e-bost yn dweud y dylen nhw “wneud y mwyaf o’r tywydd hyfryd”, gan ofyn iddyn nhw “ddod â’u diodydd eu hunain”.

Roedd canllawiau Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwahardd pobol yn Lloegr rhag cyfarfod tu allan ar gyfer rhesymau cymdeithasol ar y pryd.

Mae Heddlu Llundain bellach wedi cadarnhau eu bod nhw’n trafod gyda’r Swyddfa Gabinet yn dilyn galwadau gwleidyddol am ymchwiliad i’r honiadau.

“Mae Gwasanaeth Heddlu Llundain yn ymwybodol o’r adroddiad eang ynghylch achosion honedig o dorri’r Rheoliadau Amddiffyn Iechyd yn Downing Street ar 20 Mai 2020, ac maen nhw mewn cysylltiad â’r Swyddfa Gabinet,” meddai llefarydd ar ran Scotland Yard.

‘Celwyddgi’

Mae Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, wedi galw ar y Prif Weinidog i ymddiswyddo, gan ei alw’n “gelwyddgi cronig”.

Yr un alwad ddaeth gan Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, a ddywedodd fod yn “rhaid i Boris fynd”.

Mae Plaid Werdd Cymru hefyd wedi galw arno i ymddiswyddo.

‘Cywilyddus’

“Dwi ddim yn gallu credu’u bod nhw wedi gwahodd 100 o bobol i’r ardd pan oedden ni i gyd yn ein gerddi ein hunain a methu cael cymdogion draw,” meddai Nia Griffith, Aelod Seneddol Llafur Llanelli, ar raglen ‘Dros Frecwast’ BBC Radio Cymru.

“Pan ’dych chi’n gweld gwahoddiad i gymaint i un ardd a ni ddim yn cael, mae’n anghredadwy.

“A bod yn onest mae’n gywilyddus.

“Fe ddylai’r llywodraeth ac unrhyw un sy’n gallu deall y sefyllfa fynd.

“Dyw Boris Johnson ddim yn berson ffit i fod yn brif weinidog.

“Mater i ASau Ceidwadol (yw hynny) gan mai nhw sy’n gallu newid eu harweinydd.”

Cwestiynau brys

Yn y cyfamser, mae’r Blaid Llafur wedi cael yr hawl i ofyn cwestiynau brys am y partïon am 12:30.

Fodd bynnag, nid pawb oedd ffyddiog y byddai Boris Johnson yno i’w hateb, ac roedden nhw’n llygad eu lle.