Alistair Carmichael
Mae Aelod Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol, Alistair Carmichael, wedi goroesi her i’w etholiad ym mis Mai.

Daw’r dyfarniad yn dilyn gwrandawiad yn y Llys Etholiadol ar ôl i bedwar o’i etholwyr Alistair Carmichael gyflwyno ymgyrch i’w ddisodli o’i sedd yn Ynysoedd Erch a Shetland.

Roedd yr etholwyr yn honni bod Alistair Carmichael wedi camarwain pleidleiswyr ynglŷn â neges gyfrinachol a gafodd ei ryddhau yn honni, yn anghywir, bod Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon am weld David Cameron yn parhau yn Downing Street ar ôl yr etholiad cyffredinol.

Roedden nhw’n dadlau bod ei weithredoedd yn codi cwestiynau am ei onestrwydd fel unigolyn a’i addasrwydd i gynrychioli ei etholaeth yn San Steffan.

Wrth ymateb ar ol y dyfarniad dywedodd Alistair Carmichael ei fod yn “falch” bod yr her wedi cael ei wrthod a’i fod am barhau fel AS. Mae’n honni bod ’na “gymhelliad gwleidyddol” i’r her.

Alistair Carmichael yw unig AS y Democratiaid Rhyddfrydol yn yr Alban yn dilyn buddugoliaeth ysgubol yr SNP yn yr etholiad cyffredinol.

Y prynhawn ma fe gyhoeddodd Llefarydd Tŷ’r Cyffredin John Bercow wrth ASau bod etholiad Alistair Carmichael wedi cael ei gadarnhau.