David Cameron
Wrth i’r ddadl ynghylch cyrchoedd bomio arfaethedig yn Syria ddechrau yn San Steffan, mae nifer o ASau wedi galw ar Brif Weinidog Prydain, David Cameron i ymddiheuro am awgrymu bod gwrthwynebwyr i gyrchoedd bomio yn Syria yn “cydymdeimlo â brawychwyr”.
Gwnaeth Cameron y sylw yn breifat wrth annog Pwyllgor 1922 i gefnogi’r cynllun i fwrw ati i fomio Syria yn y frwydr yn erbyn IS.
Ond daeth ei sylwadau i’r amlwg yn ddiweddarach, ac mae nifer o aelodau seneddol wedi galw arno i ymddiheuro.
Wrth ymateb, doedd Cameron ddim wedi ymddiheuro ar ddechrau’r ddadl ddydd Mercher, ond fe ddywedodd fod unrhyw bleidlais – o blaid neu yn erbyn y cyrchoedd bomio – yn un “anrhydeddus”.
‘Amhriodol’
Dywedodd Cameron yn San Steffan: “Rwy’n parchu’r ffaith fod pobol wedi dod i gasgliad gwahanol i’r Llywodraeth sef yr un y byddaf yn ei amlinellu heddiw…”
Caroline Flint arweiniodd y galw am ymddiheuriad, ac mi gafodd ei chefnogi gan John Woodcock a alwodd ar Cameron i “dynnu ei sylw amhriodol yn ôl”.
Dywedodd cyn-Brif Weinidog yr Alban, Alex Salmond fod sylwadau Cameron yn “sarhaus dros ben”.
Ychwanegodd nad oes “un sy’n cydymdeimlo â brawychwyr” ar restr o 110 o aelodau seneddol sydd wedi cyflwyno gwelliant i gynnig y Llywodraeth.
Wrth herio Cameron yn uniongyrchol, dywedodd Jeremy Corbyn fod sylwadau’r Prif Weinidog yn “tanseilio swydd y Prif Weinidog ac, rwy’n credu, yn tanseilio difrifoldeb y trafodaethau rydyn ni’n eu cael heddiw”.
Gwahoddodd Corbyn ei wrthwynebydd unwaith eto i ymddiheuro a phan arhosodd Cameron yn ei sedd, atebodd Corbyn: “Gan nad yw’n symud, bydd rhaid i ni symud ymlaen gyda’r ddadl.”
‘Arwain at farwolaethau pobol ddiniwed’
Fe ddechreuodd Corbyn amlinellu pam ei fod yn gwrthwynebu’r cyrchoedd bomio arfaethedig yn Syria.
Dywedodd y byddai bomio IS yn Syria “bron yn anorfod yn arwain at farwolaethau pobol ddiniwed”.
Awgrymodd Corbyn fod gan aelodau seneddol benderfyniad “difrifol iawn, dwys a moesegol heriol” o’u blaenau.
Ychwanegodd: “Y mae’n un [penderfyniad] ag iddo’r potensial o ganlyniadau pellgyrhaeddol i ni i gyd yma ym Mhrydain yn ogystal ag i bobol Syria a’r Dwyrain Canol ehangach.”
Dywedodd fod rhoi milwyr Prydeinig mewn sefyllfa lle gallen nhw gael eu niweidio a lle byddai pobol ddiniwed yn cael eu lladd yn “gyfrifoldeb trwm”.
“Rhaid ei drin gyda’r difrifoldeb mwyaf, gan barchu’r sawl sy’n gwneud dyfarniad gwahanol ynghylch y camau cywir i’w cymryd.”
Ychwanegodd mai “dull diplomyddol” yn unig a fyddai’n llwyddo wrth herio IS yn Syria.
‘Dim prinder o wledydd sy’n bomio Syria’
Does dim prinder o wledydd sy’n cynnal cyrchoedd bomio yn Syria, yn ôl arweinydd yr SNP yn San Steffan, Angus Robertson.
Daeth sylwadau Robertson wrth iddo amlinellu pam fod y blaid yn gwrthwynebu cynnig Llywodraeth Prydain i fomio Syria o’r awyr mewn ymgais i drechu Daesh (IS).
Roedd yn siarad o blaid gwelliant a gafodd ei lofnodi gan fwy na 100 o aelodau seneddol o chwe phlaid.
Wrth annerch aelodau seneddol, dywedodd: “Mae cytundeb ar draws y Tŷ hwn fod bygythiad Daesh yn un go iawn, a dydy gwneud dim byd ddim yn opsiwn.
“Fodd bynnag, cofiwn mai dwy flynedd yn unig yn ôl yr oedd y Prif Weinidog hwn a’r llywodraeth hon, am i ni fomio gwrthwynebwyr Daesh a fyddai’n ddiau wedi’u cryfhau nhw.
“Nawr wrth gwrs, dydyn ni ddim wedi clywed eto ond does dim prinder o wledydd sy’n bomio Syria ar hyn o bryd.”
Mae disgwyl i aelodau seneddol bleidleisio ar y mater heno ar ôl i’r dadleuon ddod i ben.