Boris Johnson yn ad-drefnu ei Gabinet

Liz Truss yn Ysgrifennydd tramor, Dominic Raab yn Ysgrifennydd Cyfiawnder, Gavin Williamson wedi’i ddiswyddo… holl ddiweddariadau ar ein llif byw

Boris Johnson

Fe fydd Boris Johnson yn ad-drefnu ei Gabinet heddiw (Medi 15), yn ôl ffynhonnell yn Rhif 10.

Bwriad y Prif Weinidog yw “rhoi tîm unedig a chadarn mewn lle er mwyn adfer ar ôl y pandemig,” yn ôl y ffynhonnell.

“Ddoe, cyhoeddodd y Prif Weinidog ei gynllun ar gyfer rheoli Covid-19 yn ystod yr hydref a’r gaeaf.

“Ond mae’n rhaid i’r Llywodraeth hefyd ddyblu ein hymdrechion i gyflawni blaenoriaethau’r bobol.

“Bydd y Prif Weinidog yn penodi gweinidogion y prynhawn ’ma gan ganolbwyntio ar uno’r wlad.”

Daeth cadarnhad o’r ail-strwythuro wrth i Boris Johnson annerch Tŷ’r Cyffredin yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog.

Gallai presenoldeb y Prif Weinidog yn Nhŷ’r Cyffredin ganiatáu iddo ddiswyddo gweinidogion yn ei swyddfa breifat, yn hytrach nag yn Downing Street.

Fe allai’r ad-drefnu fod yn helaeth – gyda gweinidogion megis yr Ysgrifennydd Cartref Priti Patel, yr Ysgrifennydd Tramor Dominic Raab a’r Ysgrifennydd Addysg Gavin Williamson ymhlith y rhai allai olli eu swyddi.

Cafodd cyd-gadeirydd y blaid Geidwadol Amanda Milling a’r Ysgrifennydd Cymunedau Robert Jenrick eu gweld yn mynd i swyddfa seneddol Boris Johnson yn dilyn Cwestiynau’r Prif Weinidog.

Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Mae hefyd sïon y bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, yn colli ei swydd ac mai Craig Williams, yr AS dros Sir Drefaldwyn, fydd yn ei olynu.

Manteisiodd Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, ar sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog i holi a ddylai’r Prif Weinidog ad-drefnu Swyddfa Cymru allan o fodolaeth.

“Ry’n ni i gyd yn gwybod bod ad-drefnu’n digwydd,” meddai.

“Ai nawr yw’r amser i ad-drefnu Swyddfa Cymru allan o fodolaeth?”

Atebodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru: “Mae angen iddi hi benderfynu a ydi hi eisiau cynrychiolaeth San Steffan neu beidio.

“Ar y llaw mae hi’n cwyno y gallai’r niferoedd (o Aelodau Seneddol Cymreig) gael ei lleihau – er ei bod nhw’n cael eu hunioni er mwyn bod yn decach – ac ar y llaw arall mae hi’n honni na ddyla’ ni fod yma o gwbl.”

Cabinet amrywiol? Cabinet Carrie?

Dywedodd llefarydd swyddogol y Prif Weinidog bod Boris Johnson yn “deall pwysigrwydd cael Cabinet amrywiol” ond na fyddai’n gwarantu y byddai cynrychiolaeth fenywaidd o amgylch y bwrdd yn cael ei chynnal ar ei lefel bresennol yn dilyn yr ad-drefnu.

Eisoes mae cyn-ymgynghorydd Mr Johnson, Dominic Cummings, wedi galw’r ad-drefnu yn “Carrie’s reshuffle”, gan awgrymu y byddai pobl sy’n agos at Mrs Johnson yn cael eu gwobrwyo.

Ond pan ofynnwyd i Rif 10 Downing a ymgynghorwyd â gwraig y Prif Weinidog ar yr ad-drefnu, dywedodd llefarydd swyddogol Downing Street: “Naddo.”

Diswyddo Gavin Williamson

Gavin Williamson yw’r cyntaf i golli ei swydd yn yr ad-drefu, yn dilyn cadarnhad fod Boris Johnson wedi ei ddiswyddo fel Ysgrifennydd Addysg.

Roedd wedi bod yn y swydd ers 2019, a daeth o dan bwysau i ymddiswyddo droeon.

Yr wythnos ddiwethaf, cafodd ei feirniadu ar ôl iddo ddweud ei fod wedi cwrdd â’r pêl-droediwr Marcus Rashford ar-lein, pan oedd wedi siarad â’r chwaraewr rygbi Maro Itoje.

“Mae wedi bod yn fraint cael gwasanaethu fel Ysgrifennydd Addysg ers 2019,” meddai ar Twitter.

“Er gwaethaf heriau’r pandemig byd-eang, rwy’n arbennig o falch o’r diwygiadau trawsnewidiol rwyf wedi’u harwain mewn addysg ôl-16: mewn colegau addysg pellach, ein hagenda Sgiliau, prentisiaethau a mwy.

“Bydd y rhaglen hon yn creu gwell cyfleoedd bywyd i ddisgyblion a myfyrwyr am flynyddoedd lawer i ddod.

“Rwy’n edrych ymlaen at barhau i gefnogi’r Prif Weinidog a’r Llywodraeth.”

Dywedodd ysgrifennydd addysg yr wrthblaid, Kate Green: “Mae Gavin Williamson wedi methu plant a phobl ifanc, eu rhieni a’n staff addysg gweithgar drwy gydol un o’r cyfnodau mwyaf heriol yn ein hanes.

“Dwy flynedd o anrhefn arholiadau a staff wedi’u gadael heb gymorth. Dyna etifeddiaeth Gavin Williamson.

“Mae’r Prif Weinidog wedi caniatáu i hyn ddigwydd, gan gadw Ysgrifennydd Addysg sy’n methu yn ei swydd am fisoedd a gwrthod ymladd dros ddyfodol plant.”

“Prat”

Dywedodd dirprwy arweinydd Llafur Angela Rayner: “Mae’n dda bod Gavin Williamson wedi cael ei ddiswyddo ond fe ddylai fod wedi cael ei ddiswyddo dros flwyddyn yn ôl.

“Mae twpdra a methiannau llwyr y prat hwnnw wedi niweidio cyfleoedd bywyd plant ein gwlad ac mae’r llywodraeth hon wedi methu pobl ifanc, athrawon a staff addysg.”

Robert Buckland yn colli ei swydd

Mae’r Cymro Robert Buckland wedi colli ei swydd fel yr Ysgrifennydd Cyfiawnder a’r Arglwydd Ganghellor, a hynny ar ôl bod yn y swydd am ddwy flynedd.

“Mae wedi bod yn anrhydedd gwasanaethu fel rhan o’r Llywodraeth dros y 7 mlynedd diwethaf, ac fel yr Arglwydd Ganghellor am y 2 ddiwethaf,” meddai.

“Rwy’n hynod falch o bopeth yr wyf wedi’i gyflawni. Ymlaen i’r antur nesaf.”

Wrth ymateb i ymadawiad Robert Buckland, dywedodd yr ysgrifennydd cyfiawnder cysgodol, David Lammy: “Mae’r Llywodraeth hon wedi rhedeg y system gyfiawnder i’r llawr ac mae bellach ar fin cwympo.

“Mae ôl-groniad Llys y Goron wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed tra bod nifer yr euogfarnau treisio ar eu lefel isaf erioed.”

Diswyddo Robert Jenrick fel Ysgrifennydd Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol

Mae’r Prif Weinidog wedi diswyddo Robert Jenrick, Aelod Seneddol Newark, fel Ysgrifennydd Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol.

Dywedodd Robert Jenrick ei fod wedi bod yn “fraint enfawr” i wasanaethu fel Gweinidog wrth iddo gadarnhau ei fod yn gadael.

“Diolch i bawb yn yr adran am eu gwaith caled, eu hymroddiad a’u cyfeillgarwch,” meddai.

“Rwy’n hynod falch o’r cyfan a gyflawnwyd gennym.”

Ychwanegodd y bydd yn “parhau i gefnogi’r Prif Weinidog a’r Llywodraeth ym mhob ffordd y gallaf”.

15:55

Roedd gweinidog Swyddfa’r Cabinet, Michael Gove, i weld yn ddigon bodlon wrth iddo fynd i mewn i 10 Stryd Downing.

Gwenodd ar y wasg ond ni wnaeth ymateb cwestiynau ynghylch a oedd yn debygol o gadw ei rôl yn y cabinet wrth iddo gerdded i mewn i Rif 10.

Fodd bynnag, mae adroddiadau ei fod wedi canslo galwad gyda’r arweinwyr datganoledig y prynhawn yma yn awgrymu y bydd yn cael ei symud.

15:50

Mae Rhif 10 Downing wedi cadarnhau bod Priti Patel yn cadw ei swydd fel Ysgrifennydd Cartref.

Bydd Rishi Sunak hefyd yn cadw ei swydd, gan barhau fel Canghellor y Deyrnas Unedig.

15:44

Mae Amanda Milling wedi cael ei diswyddo fel cyd-gadeirydd y blaid Geidwadol.

Diolchodd i Boris Johnson am y cyfle, gan ddweud ei bod hi “wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd bod yn Gyd-Gadeirydd y Blaid Geidwadol”.

“Diolch i’r blaid wirfoddol a’r tîm yn CCHQ am eu cefnogaeth.”

15:41

Mae Liz Truss, yr Ysgrifennydd Masnach, wedi cyrraedd Rhif 10 Downing.

Mae yno adroddiadau y gallai gael ei phenodi yn Ysgrifennydd Tramor, gan ddisodli Dominic Raab – sydd wedi cael ei benodi yn Ysgrifennydd Cyfiawnder, yr Arglwydd Ganghellor a’r Dirprwy Brif Weinidog.

15:33

Mae rhai adroddiadau yn awgrymu na fydd yno ragor o ddiswyddiadau heddiw.

Byddai hynny yn golygu bod Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn cadw ei swydd.

Roedd sawl un wedi darogan y byddai’n cael ei ddiswyddo, gyda Craig Williams, Aelod Seneddol Sir Drefaldwyn, yn ffefryn i’w ddisodli.

15:26

Mae Rhif 10 wedi cadarnhau penodiad Dominic Raab fel Ysgrifennydd Cyfiawnder, yr Arglwydd Ganghellor a’r Dirprwy Brif Weinidog.

Hwn yw’r penodiad cyntaf yn ad-drefniad y Cabinet.

Mae’n debyg bod Rhif 10 yn awyddus i hyn beidio â chael ei ystyried fel cosb yn dilyn ei ymdriniaeth o gwymp Affganistan i’r Taliban.

“Mae’r Frenhines yn falch o gymeradwyo penodiad y Gwir Anrhydeddus Dominic Raab AS fel Dirprwy Brif Weinidog, yr Arglwydd Ganghellor, a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder,” meddai datganiad gan Rhif 10.