Mae Heddlu’r Alban yn dweud eu bod nhw’n cynnal ymchwiliad ar ôl iddyn nhw dderbyn cwynion ynghylch rhoddion ariannol i’r SNP.

Yn ôl y llu, maen nhw wedi derbyn saith cwyn ac wedi penderfynu cynnal ymchwiliad ar ôl siarad â Swyddfa’r Goron.

Roedd Heddlu’r Alban wedi bod yn asesu cwynion gan aelod o’r cyhoedd, ond erbyn hyn, maen nhw wedi diweddaru eu datganiad er mwyn dweud bod ymchwiliad llawn ar y gweill.

“Ar ôl asesu ac ymgynghori gyda Swyddfa’r Goron a’r Gwasanaeth Procuradur Ffisgal, byddwn ni nawr yn cynnal ymchwiliad,” meddai llefarydd.

“Mae ymholiadau’n parhau, ac mae gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu’r ymchwiliad gysylltu â’r heddlu.”