Y Cymro Cymraeg Huw Edwards, sy’n cyflwyno rhaglenni newyddion y BBC, sy’n ennill y pedwerydd cyflog mwyaf yn y Gorfforaeth.

Mae adroddiad blynyddol y BBC yn datgelu’r deg cyflog uchaf ar gyfer 2020-21, ac mae’n dangos bod cyflogau’r cyflwynwyr ’talent’ wedi gostwng o 10%.

Ar y brig mae Gary Lineker, cyflwynydd rhaglenni pêl-droed, a hynny er iddo fe gytuno i dderbyn oddeutu £400,000 yn llai, ac mae e bellach yn ennill oddeutu £1.36m.

A hithau hefyd wedi cytuno i lai o gyflog, mae cyflwynydd brecwast Radio 2, Zoe Ball, bellach yn ennill tua £1.13m – ond y gred yw ei bod hi’n ennill tua £980,000 ar ôl i’w chyflog gael ei dorri eto o ganlyniad i Covid-19.

Steve Wright, sydd hefyd yn gyflwynydd Radio 2, sy’n drydydd ac mae e’n ennill rhwng £465,000 a £469,999 y flwyddyn.

Huw Edwards sydd nesaf ar y rhestr, ac mae e’n ennill rhwng £425,000 a £429,999.

Fiona Bruce a Stephen Nolan (£405,000-£409,999), Lauren Laverne (£395,000-£399,999), Vanessa Feltz ac Alan Shearer (£390,000-£394,999), a Scott Mills (£375,000-£379,999) sy’n cwblhau’r rhestr.

Yn ôl Tim Davie, cyfarwyddwr cyffredinol y BBC, roedd y trafodaethau ynghylch torri cyflogau’r ’talent’ yn “adeiladol”, ond mae e wedi gwrthod datgelu union gynnwys y trafodaethau.

Serch hynny, mae’n dweud mai strategaeth y BBC yw sicrhau “gwerth i gynulleidfaoedd” a’u bod nhw’n barod i “wneud penderfyniadau anodd” i gyrraedd y nod.

Casgliadau’r adroddiad

Mae’r adroddiad hefyd yn dangos:

  • na fu newid o ran y gwahaniaeth rhwng cyflogau dynion a menywod, gyda phedwar o fenywod ymhlith y deg uchaf unwaith eto eleni
  • Graham Norton yw’r unig gyflwynydd i adael y deg uchaf, ar ôl bod yn drydydd yn 2019-2020, a hynny ar ôl iddo fe adael y BBC am Virgin Radio fis Rhagfyr y llynedd. £155,000-£159,999 oedd ei gyflog cyn gadael.
  • Daw Scott Mills, DJ Radio 1, i mewn i’r deg uchaf gyda chyflog o £375,000-£379,999.
  • Mae pedwar yn llai o staff yn ennill mwy na £150,000 eleni – i lawr o 76 y llynedd i 72 eleni

Tra bod Scott Mills a Greg James yn ennill mwy o gyflog eleni, mae Huw Edwards, Fiona Bruce, Vanessa Feltz, Ken Bruce ac Emily Maitlis i gyd yn ennill llai.

Dydy Claudia Winkelman ddim ar y rhestr gan mai cynhyrchiad BBC Studios yw Strictly Come Dancing.

Mae’r adroddiad yn nodi chwe mis ers i Tim Davie ddod yn gyfarwyddwr cyffredinol.

Mae’n ofynnol i’r BBC gyhoeddi’r rhestr o gyflogau dros £150,000 ers 2017.

BBC Studios – “hanner y darlun”

Ond dydy unrhyw gyflogau gan BBC Studios ddim yn cael eu cynnwys yn y rhestr, ac maen nhw’n ychwanegol at y cyflogau sy’n cael eu datgelu.

Yn ôl Tim Davie, mae hynny’n “gwbl briodol” ac mae’n barod i “amddiffyn” y drefn honno.

Mae Julian Knight, yr Aelod Seneddol Ceidwadol sy’n gadeirydd ar Bwyllgor Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon San Steffan, yn dweud bod peidio â chynnwys enillion o BBC Studios yn golygu mai “hanner y darlun” yn unig sydd i’w gael yn yr adroddiad.

Mae’n dweud bod y newyddion bod nifer o gyflwynwyr wedi cytuno i lai o gyflog eleni “i’w groesawu”.

“Ond er iddo gael toriad yn ei gyflog, mae Gary Lineker yn dal i ennill £1.36m,” meddai.

“Mae yna ddiffyg tryloywder o hyd, sy’n destun pryder oherwydd mae nifer o sêr ar y cyflogau mwyaf yn cael eu talu trwy BBC Studios a dydy eu cyflogau ddim yn ymddangos yma.

“Mae Claudia Winkelman yn un o’r rhai coll ar y rhestr hon er iddi weithio i Radio 2 a chyflwyno Strictly.

“Heb awgrym a yw’r enillion hyn wedi codi neu ostwng, dim ond hanner y darlun gaiff y rhai sy’n talu trwyddedau o ran a ydyn nhw’n cael gwerth eu harian.

“Mae’n bryd i’r BBC ymrwymo i dryloywder llawn ynghylch eu bil talent a rhoi’r gorau i’r dull cudd.”